Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Mawrth 2024
Amser:
14.00 -
14.43
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13740
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Peredur Owen Griffiths AS Buffy Williams AS Altaf Hussain AS (yn lle Joel James AS) |
Tystion: |
Gillian Kelly, Transport Scotland Carole Stewart, Transport Scotland Paul White, Cydffederasiwn Cludwyr Teithwyr (CPT) Yr Alban |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.
Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.
Roedd Rhys ab Owen AS yn absennol.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carole Stewart a Gillian Kelly o Transport Scotland a Paul White o Gonffederasiwn Cludiant Teithwyr yr Alban.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn nifer o gwestiynau penodol a godwyd gan y deisebwyr ac Aelodau’r Pwyllgor, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddeiseb.
Cytunodd yr Aelodau i anfon y llythyr at y Gweinidog ar ôl i drafodion cyfnod 3 Bil Seilwaith (Cymru) gael eu cynnal yn y cyfarfod llawn (19 Mawrth 2024).
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod disgwyl i ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol gael ei chyflwyno ar ôl y Pasg. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'r materion a amlinellwyd yn y ddeiseb a rôl bosibl y Bil wrth fynd i'r afael â hwy.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i godi'r materion a amlinellwyd yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau sydd i ddod ar P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.
At hynny, cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y datblygiad o gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda'r bwriad o wneud y gwelliannau y tynnwyd sylw atynt yn y ddeiseb. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd.
Cytunodd yr Aelodau hefyd i anfon y pwyntiau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac anfon copi at yr awdurdod lleol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ac Ofgem, ac y bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 1 Mai 2024.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru.
Yn sgil y ddadl ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig.
Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru.
Yn sgil y ddadl ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig.
Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ragor o fanylion am waith ac adroddiadau ar y goblygiadau o ran defnyddio enwau lleoedd Cymraeg ac unrhyw argymhellion a wnaed ac amserlenni ar gyfer gweithredu.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd.